Cyllid addysg i grwpiau trwy'r Sefydliad
Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru’n dyfarnu grantiau niferus i grwpiau drwy’n cronfeydd addysg i annog dysgu, cyfathrebu a datblygu sgiliau. Yr wythnos diwethaf, amlygasom enghreifftiau o effaith y grantiau a wnaed i fyfyrwyr, a elwodd yn ariannol ac yn bersonol o’r hyblygrwydd a’r sefydlogrwydd a ddarparodd y dyfarndal.
Yn ychwanegol, mae yna amrywiaeth o gronfeydd ar gael i grwpiau, mudiadau ac elusennau sy’n darparu prosiectau addysgol ar gyfer eu cymuned leol, yn cynnwys blynyddoedd cynnar, plant a phobl ifanc a/neu ddysgu gydol oes.
Mae
Pwyllgor Ieuenctid Brecon Foyer yn grŵp â chyfansoddiad sydd wedi’i ffurfio o unigolion digartref ifainc, sydd ar hyn o bryd mewn lletyau â chymorth. Mae’r holl unigolion yn trigo ar hyn o bryd yn Aberhonddu a’r ardaloedd o amgylch, ac maent yn cael at gyfleoedd gwaith a hyfforddiant drwy sesiynau galw heibio a chlybiau gwaith, a darperir mynediad i’r rhyngrwyd i’r rheiny sydd ar hyn o bryd yn astudio ac sydd angen cael at gyfleusterau ymchwil a lle i astudio. Derbyniodd y Pwyllgor grant o £500 drwy
Hen Ysgol Ramadeg y Genethod, Cronfa Aberhonddu ym mis Mawrth, 2015 i dalu cost trip ar gwrs gweithgareddau i ddifyrru yng Ngorllewin Cymru i’w haelodau. Darparodd y gweithgareddau, er eu bod yn adloniadol, sail i greu cwlwm agosrwydd fel tîm, datblygu sgiliau i ddarparu llwyfan ar gyfer trafod a chydgefnogaeth.
Cefnogwyd wyth o bobl ifanc i gynhyrchu fideo a dyddiadur ffotograffig o’r trip, oedd yn cynnwys rhai o’r dyfyniadau a ganlyn:
David: ‘Roeddwn yn caru Dyfnaint... Gwnes hefyd fwynhau’r gweithgareddau adeiladu tîm, dringo a Lazer Tag. Roedd y bwthyn lle roeddem yn aros yn hyfryd a mwynheais helpu â’r gorchwylion a dod i adnabod pob eraill.’
Emma: ‘Magodd y trip fy hyder a gwnes bethau na wnes i erioed ei gredu y byddwn yn eu gwneud... Mae wedi fy helpu i ddweud fy marn ac i roi cynnig ar bethau newydd.’
Lisa: ‘Mae gen i yn awr lais y tu mewn a all ddod allan a theimlaf y gallaf leisio fy syniadau a fy nghred yn fwy yn awr nag erioed.’
Mae
Chwarae Maesyfed yn gylch chwarae sydd wedi’i ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd chwarae drwy Sir Faesyfed i gyd er mwyn sicrhau y caiff pob plentyn a pherson ifanc y cyfle i ymwneud â gweithgareddau adloniant, chwarae a hamdden. Dyfarnwyd £5,000 i’r grŵp drwy
Gronfa Deddf Eglwys Cymru ym Mhowys, a gyfrannodd at gyflawni sesiynau chwarae allgymorth wythnosol mewn lawnt leol yn Llandrindod, i 281 o blant. Gyda chludo cyfarpar ar y ‘fan chwarae’, mae’r ‘Ceidwaid Chwarae’ yn cefnogi plant a phobl ifanc i ymwneud â gweithgareddau i wella’u hunan-barch, iechyd a lles, gan ddod â phlant ynghyd i ryngweithio a chael hwyl a dysgu mewn awyrgylch diogel, anffurfiol a chymdeithasol.
Mae’r gweithgareddau’n cynnwys adeiladu gwâl, dysgu coginio ar dân gwersyll, celfyddydau a chrefft, chwaraeon a gemau a pherfformiadau theatraidd megis dawnsio a chanu. Er bod y pwyslais wedi bod ar hwyl, canfu Chwarae Maesyfed bod y plant wedi mynd yn fwy hyderus, yn fwy egnïol ac wedi datblygu sgiliau allweddol megis cyfathrebu a gwaith ti. Yn ogystal, creodd addysg drwy chwarae le ar gyfer magu cyfeillgarwch, cydweithredu ac awch i ddysgu a chofleidio syniadau newydd i ryngweithio â’r naill a’r llall.
Mae’r Sefydliad Cymunedol yn rheoli nifer o gronfeydd a bwrsariaethau addysg cyffelyb mewn ardaloedd eraill ledled Cymru. Ewch i gael golwg ar ein gwefan, os gwelwch yn dda, i gael rhagor o wybodaeth neu ffoniwch ni ar 02920 379 580 i drafod.
Nid yw cysylltiadau a gynhwysir yn yr erthygl hon, sy’n arwain at wefannau eraill, yn un o gyfrifoldebau’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, ac nid ydym yn gyfrifol am gynnwys unrhyw safle cysylltiedig nac am unrhyw gysylltiad a geir mewn safle cysylltiedig.