Yn ystod mis Hydref 2012, lansiwyd Cronfa Waddol Gymunedol Sir Ddinbych yng Nghanolfan Celfyddydau Rhuthun. Sefydlwyd y Gronfa o ganlyniad i waith y Sefydliad gyda Chyngor Sir Ddinbych, a gytunodd i drosglwyddo eu hymddiriedolaethau elusennol segur, bach ac anweithredol o dan stiwardiaeth y Sefydliad. Bydd yr incwm gwaddol o'r gronfa hon yn cael ei roi i fudiadau, elusennau, prosiectau ac unigolion lleol yn Sir Ddinbych.
"Rydym yn falch o gael gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn wneud yn siŵr bod y cyllid yn cael ei dargedu'n effeithiol, ond rydym hefyd am i'r gronfa dyfu er mwyn rhoi budd i fwy o grwpiau lleol yn y dyfodol. I ddechrau, bydd y Gronfa yn canolbwyntio ar y rhodd gyntaf, ond wrth i fwy o bobl, busnesau ac ymddiriedolaethau ychwanegu eu rhoddion at y Gronfa, bydd yr amcanion elusennol a meini prawf y grant yn ehangu. Rydym yn gwahodd pobl sy'n byw yn y sir i ystyried rhoi rhodd i'w cymunedau. Mae rhoi yn lleol ar gyfer gweithredu'n lleol wir yn gwneud gwahaniaeth."
Mae Cronfa Waddol Gymunedol Sir Ddinbych yn helpu pobl sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth – drwy roi arian i elusennau neu weithredu yn y gymuned, drwy wneud y canlynol:
casglu rhoddion a thargedu'r cyllid er mwyn diwallu anghenion a chryfhau cymunedau yn Sir Ddinbych
gweithio gyda phobl leol i gynghori ynghylch penderfyniadau o ran grantiau
dyfarnu grantiau i grwpiau a phrosiectau bychan ar lawr gwlad, nad yw cyllidwyr a rhoddwyr yn gwybod amdanynt yn aml
cefnogi dyheadau addysgol pobl ifanc
Esboniodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Sir Ddinbych:
"Pan wnaeth y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru gysylltu â ni, roeddem yn awyddus iawn i gyfrannu arian er mwyn creu'r Gronfa hon sy'n canolbwyntio ar addysg yn Sir Ddinbych. Erbyn hyn mae gennym ffordd dda ymlaen, mae'r arian sydd ar gael yn mynd i gael ei fuddsoddi'n dda, a bydd cyllid yn cael ei roi i achosion teg yn ein cymunedau. Bydd hynny gobeithio yn sicrhau manteision i'n trigolion, nawr ac am flynyddoedd i ddod".
Caiff pobl eu hannog i gyfrannu at y Gronfa hon er mwyn cronni'r Gwaddol at ddyfodol Sir Ddinbych. Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi arian i'ch Cronfa Waddol leol cliciwch yma