Mae’r Sefydliad Cymunedol yn falch i gyhoeddi lansiad Gwobr Datblygu Menter Gymdeithasol Santander 2014. Mae’r wobr yn fuddsoddiad cymunedol cenedlaethol er mwyn cefnogi mentrau cymdeithasol a mentrau elusennol sydd yn gweithio er mwyn budd eu cymuned.
Wedi ei lansio ar Ebrill 9fed 2014, mae’r gwobrau sydd ar gael trwy’r Sefydliad Cymunedol ar agor i Elusennau Cofrestredig a Grwpiau Cymunedol a Gyfansoddwyd ar draws y DU sydd hefo’r gallu i ddangos elfen fentrus i’w gwaith ac incwm.
Mae yna wobrau o rhwng £2,500 ac £10,000 ar gael i gefnogi Elusennau Cofrestredig a Grwpiau Cymunedol yn nhwf eu gweithgareddau mentrus, ac sydd yn gwasanaethu un o’r canlyniadau cymunedol canlynol: gwella cynhwysiant cymdeithasol a chymunedol, cefnogi pobl ddifreintiedig drwy sgiliau, hyfforddiant a gwaith, neu greu amgylchedd mwy gwyrdd.
Yn ogystal â gwobr ariannol, gall yr enillwyr hefyd gwneud defnydd o’r rhaglen cefnogi busnes, yn cynnwys: mynediad at fodel asesiad effaith, y siawns i gael intern yn gweithio i’r mudiad am dair mis er mwyn cefnogi cynlluniau twf, a hefyd cefnogaeth arbenigol ymgynghori menter gymdeithasol.
Am fwy o wybodaeth, canllawiau manwl, ac er mwyn gwneud cais dilynwch www.santanderseda.co.uk
Mae’r rhaglen yma rŵan ar gau.
Ni rydym wedi cael cadarnhad bod y rhaglen hon am redeg yn 2015. Os bydd yn, fe fydd y meini prawf yn debygol o newid i adlewyrchu newidiadau yn flaenoriaethau’r gronfa.