Mae Comic Relief a’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn dod ac Arian Cymunedol Comic Relief i Gymru. Unwaith eto rydym yn dosbarthu £80,000 o gronfa Arian Gymunedol i gymunedau ar hyd Cymru.
Credwn fod pobl leol yn gwybod beth sydd ei angen yn eu cymuned ac mai y nhw sydd yn y sefyllfa orau i wneud unrhyw newidiadau. Mae cael llawer o weithgareddau’n digwydd mewn ardal yn dod â hyfywedd i gymuned leol a all ei gwneud yn well lle i fyw ynddi. Rydym hefyd yn ymwybodol bod llawer o bobl yn gwneud gwaith gwych yn eu hardal ond eu bod yn aml yn ei chael hi’n anodd cael y gefnogaeth y mae arnynt ei hangen. Felly, mae arnom eisiau cefnogi grwpiau cymunedol sy’n gwneud gwaith sy’n helpu pobl o bob oed i deimlo’u bod yn cael eu cynnwys yn fwy yn eu cymuned, sy’n datblygu’u sgiliau ac sy’n cynyddu’u hymdeimlad o gyflawni.
PWY ALL YMGEISIO?
Rydym yn neilltuol o awyddus i sicrhau ein bod yn cyrraedd grwpiau o bobl sydd yn aml yn colli cyfleoedd. O’r herwydd, derbyniwn geisiadau oddi wrth y sectorau gwirfoddol a chymunedol, yn cynnwys:
• grwpiau gwirfoddol a chymunedol sydd â chyfansoddiad
• elusennau
• mentrau cymdeithasol
• cwmnïau cydweithredol
• cwmnïau buddiannau cymunedol
Mae grwpiau sydd wedi’u sefydlu ers llai na 12 mis yn gymwys i ymgeisio.
GRANTIAU
- Mae grantiau rhwng £500 a £1,000 ar gael i brosiectau sy'n para 1 flwyddyn.
Bydd grantiau'n cael eu defnyddio i gefnogi gwaith lle mae tystiolaeth glir o effaith fuddiol ar fywydau pobl sy'n cael eu gwahardd neu o dan anfantais drwy incwm isel, ynysu gwledig neu gymdeithasol, oedran, anableddau, hil, rhywioldeb neu ryw.
Rydym yn chwilio am amrywiaeth eang o brosiectau sy'n gallu cyflawni canlyniadau cymdeithasol.
I GAEL EICH YSTYRIED AR GYFER CYLLID, BYDD ARNOCH ANGEN:
• Bod yn gweithio mewn ardal dan anfantais neu ardal o amddifadedd
• Bod yn grŵp lleol bychan sydd ag incwm o lai na £100,000 a reolir gan bobl leol
• Bod â fawr ddim mynediad at ffynonellau eraill o incwm
• Diffinio’n eglur yr angen y rhowch sylw iddo
• Dangos yn eglur fudd eich gweithgareddau i bobl ddifreintiedig
• Egluro sut rydych yn amcanu at gyflawni canlyniadau cymdeithasol
• Darparu tystiolaeth eglur bod y gwasanaethau a ddarperir yn gynhwysol i bawb
• Darparu tystiolaeth eglur y bydd y gweithgareddau a ddarperir yn targedu pobl fyddai fel arfer yn ei chael hi’n anodd cael at y cyfleoedd hynny.
ENGHREIFFTIAU O’R MATH O WEITHGAREDDAU Y GWNAWN EU HARIANNU
• Banciau bwyd
• Gwasanaethau cwnsela a chynghori
• Clybiau/gweithgareddau chwaraeon i bobl anabl
• Prosiectau hyfforddi, datblygu sgiliau a gwirfoddoli
• Grwpiau cymunedol a chostau sefydlu i grwpiau newydd
• Grwpiau cymorth
BLAENORIAETHAU
Rhoddir blaenoriaeth i grwpiau neu fudiadau bychain, a leolir yn lleol mewn ardaloedd o anfantais sydd â dealltwriaeth eglur o anghenion eu cymuned ac sy’n cymryd camau gweithredol i ddiwallu’r anghenion hyn. Yn dibynnu ar ansawdd a nifer y ceisiadau a dderbynnir, rhoddir blaenoriaeth i’r:
• Rheiny sy’n newydd i gyllid Comic Relief a/neu Sefydliad Cymunedol
• Rheiny mewn ardaloedd o amddifadedd uchel
• Rheiny mewn ardaloedd nas cyllidwyd yn ddigonol yn ddaearyddol
• Rheiny â phrofiad uniongyrchol, lle mae pobl yr effeithiwyd yn uniongyrchol arnynt gan y materion dan sylw yn gysylltiedig â phob lefel o’r mudiad
• Rheiny â dulliau arloesol o weithredu, i ymateb i angen a ddiffinnir yn eglur
• Rheiny sy’n dangos arferion effeithiol, gyda thystiolaeth y bydd y fethodoleg a ddefnyddir yn llwyddiannus.
PWY NA CHAIFF YMGEISIO
• Mudiadau sy’n derbyn grant yn uniongyrchol gan Comic Relief (ac eithrio’r rhaglen Arian Cymunedol)
• Unigolion
• Sefydliadau statudol, yn cynnwys ysgolion
• Sefydliadau cenedlaethol, oni bai y cyflwynir y cais gan swyddfa leol sydd â phwyllgor rheoli ar wahân, cyfrif banc a dogfennau llywodraethu.
GWAHERDDIR Y CANLYNOL
Nid yw’r meini prawf yn cynnwys dyfarnu’r Grant:
• i ariannu tripiau tramor;
• i ariannu bysiau, bysiau mini neu gynlluniau trafnidiaeth cymunedol eraill (nad yw’n cynnwys costau trafnidiaeth sy’n ffurfio rhan o brosiect);
• i ariannu costau adeiladu, yn cynnwys addasiadau mynediad i adeiladau.