A hoffech chi weithio gyda'r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru er mwyn buddsoddi o leiaf £175,000 ar ran, gyda ac ar gyfer eich cymuned dros y dair blynedd nesaf?
CEFNDIR
Rydym wedi cael ein comisiynu gan Ymddiriedolaeth Ysbryd 2012 i stiwardio rhaglen fuddsoddi gymunedol gwaddol y Gemau Olympaidd mewn dwy gymuned yng Nghymru. Rydym yn edrych am gymunedau gwahaniaethadwy sy'n cynnwys poblogaeth o rhwng 5,000 a 25,000 o bobl. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, rhwydwaith o bentrefi, ward, cymdogaeth neu ardal Cymunedau yn Gyntaf.
Sefydlwyd Ysbryd gan ddefnyddio'r elw a sicrhawyd o werthu Pentref Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012 Llundain. Mae Ysbryd yn dymuno grymuso pobl i fynd allan, i gymryd rhan ac i deimlo'n well.
Gan ddatblygu sylfaen sylweddol Gemau'r Gymanwlad 2014 Glasgow, mae Fourteen yn rhan uchelgeisiol a phellgyrhaeddol o raglen Ysbryd. Bydd Ysbryd yn buddsoddi £3.5 miliwn er mwyn ysgogi mentrau wedi'u hysbrydoli gan nifer o agweddau ar Gemau'r Gymanwlad mewn 14 cymuned ddaearyddol ar draws y DU, gan ddechrau yn Glasgow a chan ledaenu ar draws y DU er mwyn creu rhaglen o gyfranogiad cymunedol a fydd yn para tair blynedd.
Bydd y rhaglen yn ymestyn cyrhaeddiad a gwaddol y Gemau, gan gysylltu pobl a chymunedau a chynyddu lles. Bydd ethos ac ysbryd menter Fourteen yn gymunedol a bydd yn ceisio cynyddu cyfranogiad mewn un o'r gweithgareddau canlynol neu fwy, gan ddibynnu ar angen a diddordeb cymunedol:
· Gwirfoddoli a gweithredu cymdeithasol
· Chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar lawr gwlad
· Gweithgarwch diwylliannol a'r celfyddydau
· Arweinyddiaeth ieuenctid a datblygiad personol
Bydd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn gweithio gyda phob cymuned a ddewisir dros dair blynedd er mwyn:
1. Sefydlu Panel Cymunedol
2. Meithrin dealltwriaeth eglur no flaenoriaethau ac anghenion cymunedol
3. Cynnal dau ddigwyddiad cymunedol sy'n dyfarnu grantiau
4. Penderfynu ar y ffordd orau o wario £125,000 pellach yn y gymuned
5. Sicrhau mwy fyth o gyllid
6. Meithrin perthnasoedd gyda phartneriaid a chymunedau Fourteen eraill ar draws y DU
Mae angen i rywun lenwi ffurflen gais a'i hanfon atom erbyn dydd Llun 10 Tachwedd. Mae modd i'r enwebydd fod yn unrhyw un sy'n byw neu sy'n gweithio yn y gymuned sy'n destun y cais ac y maent yn cynrychioli sefydliadau, grwpiau cymunedol, partneriaethau, elusennau neu fforymau. Gan mai dim ond dwy gymuned yng Nghymru sy'n gallu cael budd, rydym wedi cynllunio amserlen gyflym a phroses ymgeisio a phenderfynu sy'n cynorthwyo ymgeiswyr i wneud eu hachos gorau dros gael cymorth.
Darllenwch y meini prawf am ragor o wybodaeth.