Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru wedi cael ei gomisiynu gan Ymddiriedolaeth Ysbryd 2012 i stiwardio rhaglen fuddsoddi cymunedol gwaddol y Gemau Olympaidd ym Mro Aberffraw. Mae’r rhaglen hon, Fourteen, yn rhan bellgyrhaeddol ac uchelgeisiol o raglen Ysbryd 2012.
Rydym yn chwilio am geisiadau am grant ar gyfer prosiectau sy'n cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol ar ôl ymgynghori â phobl leol sydd am weld mwy o brosiectau gyda ffocws ar weithgarwch cynyddol i gefnogi iechyd a lles gwell yn ardal y Bro Aberffraw. Rydym yn chwilio am brosiectau cynhwysol a fydd yn cynnig gweithgareddau lle nad oes rhai ar hyn o bryd, neu ei fod yn ychwanegu’n sylweddol at y ddarpariaeth bresennol. Rydym a’g diddordeb arbennig mewn prosiectau a ddarparu’r chwaraeon a gweithgareddau gwahanol, er enghraifft ymarferion cadair freichiau ar gyfer pobl hŷn, sesiynau blasu gweithgareddau, gan gynnwys dysgu pobl sut i fwyta'n iach a chwaraeon sydd yn targedu grŵp o fuddiolwyr sydd ddim yn cymryd rhan mewn ddarpariaeth sydd ar gael o fewn yr ardal yn barod ee. rygbi merched/pêl-droed, pêl-fasged cadair olwyn ac ati.
PWY ALL WNEUD CAIS?
Elusennau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig, grwpiau gwirfoddol a chymunedol (sydd â chyfansoddiad ffurfiol) a mentrau cymdeithasol sy’n gweithio yng nghymuned ddaearyddol Bro Aberffraw, sy’n cynnwys ardaloedd Aberffraw, Malltraeth, Bodorgan, Niwbwrch, Llangristiolus. Rhaid i’r gweithgarwch ddigwydd yn y gymuned hon, ac mae’n rhaid bod y rhan fwyaf o’r buddiolwyr yn byw yn y gymuned hon.
Mae'r Gronfa yma AR GAU.
Os oes gennych ddiddordeb neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen hon, a fyddech cystal â siarad â Sarah Morris yn Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ar [email protected] neu 02920 379580.