Yng Nghymru, mae’n ofynnol i fanwerthwyr godi tâl o 5 ceiniog ar gwsmeriaid am fag siopa untro. Mae ASDA wedi penderfynu defnyddio’r arian hwn i gefnogi achosion da sydd o fudd i’r gymuned leol mewn ardaloedd lle y lleolir eu siopau.*
Bydd y gronfa hon yn cefnogi prosiectau ac achosion da sy’n cyfri’ fwyaf i’w cwsmeriaid:
- Plant a Phobl Ifanc
- Pobl Hŷn
- Iechyd
- Cydlyniant Cymunedol
Gall y gwobrau helpu i dalu ystod eang o gostau i grwpiau cymunedol, yn cynnwys costau cyfarpar, deunyddiau a hyd yn oed weithgareddau a digwyddiadau cymunedol lleol.
Pwy a all ymgeisio
- Sefydliadau dielw
(er enghraifft, Elusen Gofrestredig, Sefydliad Elusennol Corfforedig, Clwb neu Gymdeithas Anghorfforedig a Chwmni Buddiannau Cymunedol)
Gwobrau ar gael
- £2,000 ar gyfer achosion da ac elusennau yn eich ardal leol
Nodwch, os gwelwch yn dda:
- Ni ddyfarnir gwobrau’n ôl-weithredol, hynny yw, am gostau a achoswyd eisoes cyn derbyn y llythyr yn cynnig y wobr a thelerau ac amodau a lofnodwyd;
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr allu dangos yr angen ariannol/cymdeithasol y bydd y grant yn rhoi sylw iddo;
- Ni all defnyddiwr unigol elwa o’r gwaith;
- Ni chaiff y wobr ei defnyddio yn gyfan gwbl i ariannu cyflogau staff yn unig;
- Mae’n rhaid i sefydliadau llwyddiannus fod yn fodlon i ASDA gysylltu â nhw ar gyfer rhagor o gyhoeddusrwydd a diweddariadau.
Y dyddiad cau ydi 30 o Fedi 2015 am 5pm
I wneud cais yn y Gymraeg, cliciwch ar y ddolen i lenwi cais ar-lein: CLICIWCH YMA
Cofiwch i ddarllen y meini prawf yn llawn cyn gwneud cais i unrhyw gynllun grant i sicrhau bod eich sefydliad a'r prosiect yn gymwys.
Gallwch hefyd siarad â’r Hyrwyddwr Bywyd Cymunedol yn eich siop ASDA leol, a gallant eich helpu â’ch cais.