Bydd y Gronfa Addysg ar gyfer Dinbych a’r Ardal o Amgylch yn cefnogi addysg unigolion a mentrau addysgol penodol sy’n cefnogi grwpiau a / neu fudiadau, i gynnwys:
Prosiectau sy’n cefnogi cyrhaeddiad / datblygiad addysgol plant a phobl ifanc rhwng 11 a 25 mlwydd oed;
Prosiectau mewn ysgol / coleg sy’n cefnogi hyfforddiant galwedigaethol, materion iechyd a byw’n iach;
Prosiectau sy’n gynhwysol o addysg gyda chefnogaeth i fyfyrwyr unigol rhwng 11 a 25 mlwydd oed ar ffurf bwrsariaethau, ysgoloriaethau, cymorth i deithio, diwylliant, chwaraeon, gwobrau am gyrhaeddiad a deunyddiau / cyfarpar addysgol (nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol).
PWY A ALL YMGEISIO
Myfyrwyr rhwng 11 a 25 mlwydd oed sydd ar hyn o bryd yn breswylwyr llawn amser yn nhref Dinbych ac ardaloedd Cyngor Cymuned Nantglyn, Henllan, Bodfari, Aberchwiler, Llandyrnog, Llanrhaeadr yng Nghinmerch, Llanynys, Llanefydd a Llansannan, ar yr amod nad yw’r cais yn ymwneud â gweithgaredd a ddaw o fewn darpariaeth statudol;
Elusennau, grwpiau a mudiadau sy’n cynnal prosiectau a weithgareddau ar gyfer plant a pobl ifanc sy’n byw yn Dinbych a’r Cyngorau Cymunedol enwir a ddaw y tu allan i ddarpariaeth statudol (e.e., clybiau ar ôl ysgol, clybiau brecwast, prosiectau garddio, ac yn y blaen).
Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n dangos orau sut maent yn diwallu amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, ac nad ydynt wedi derbyn cefnogaeth o’r blaen gan y Gronfa hon.
GRANTIAU AR GAEL
Gall unigolion ymgeisio am grantiau o hyd at £500;
Gall mudiadau ymgeisio am grantiau o hyd at £1,000;
Lle mae yna achos eithriadol am gymorth (yr ymgeisydd i wneud yr achos), gellir dyfarnu grantiau o hyd at £5,000.
Nodwch, os gwelwch yn dda:
Ni ddyfarnir grantiau’n ôl-weithredol, hynny yw, am gostau a achoswyd eisoes cyn derbyn y llythyr yn cynnig grant a llofnodi’r telerau a’r amodau;
Ni chefnogir prosiectau a ddaw o fewn cyfrifoldeb y sector statudol, e.e., unrhyw beth a ddaw o fewn cwricwlwm yr ysgol;
Mae’n rhaid i ymgeiswyr (yn enwedig ymgeiswyr unigol) allu dangos angen ariannol a / neu gymdeithasol am gyllid;
Ni ddyfarnir grantiau i unigolion tuag at gostau lle mae cefnogaeth ariannol ar gael p’un bynnag, e.e., ffioedd dysgu lle mae’r ymgeisydd yn gymwys ar gyfer benthyciad i fyfyrwyr;
Gall mudiadau ac unigolion ond ymgeisio i’r gronfa unwaith mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
SUT I YMGEISIO Mae’r rhaglen gyda'g 2 ddyddiad cau bob blwyddyn sef 31 o Fawrth a 31 o Fedi. Gwahoddir ceisiadau o fewn chwe wythnos cyn y dyddiad cau.
Mae'r gronfa yma AR GAU ar hyn o bryd!
Peidiwch ag petruso i gysylltu â’r Sefydliad ar 02920 379 580 neu drwy anfon e-bost at [email protected] am fwy o wybodaeth.