Bydd Cronfa Dioddefwyr Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ystyried ceisiadau oddi wrth fudiadau gwirfoddol a chyrff trydydd sector am gyllid tuag at wasanaethau arbenigol i ddioddefwyr.
Gall y Gronfa gefnogi prosiectau newydd neu brosiectau sydd eisoes yn bodoli a gwasanaethau arbenigol sy’n gweithio ag unigolion yr effeithiwyd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol arnynt gan drosedd. Mae’r Gronfa’n croesawu syniadau arloesol o brosiectau fyddai’n cydategu gwasanaethau cymorth presennol i ddioddefwyr.
PWY ALL YMGEISIO
- Sefydliadau o’r drydydd sector sy'n darparu gwasanaethau yn Ardal Heddlu De Cymru.
Mae ardal Heddlu De Cymru yn cwmpasu cymunedau Caerdydd, Abertawe, Castell Nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Ni ddyfarnir grantiau i:
GRANTIAU SYDD AR GAEL
- Grantiau o rhwng £5,000 ac £30,000
Nodwch, os gwelwch dda:
Yn unol â Chod Ymarfer Dioddefwyr, dylai’r holl wasanaethau a phrosiectau a gyflawnir sy’n defnyddio’r cyllid hwn fod yn:
- Di-dâl
- Cyfrinachol
- Heb fod yn camwahaniaethu (yn cynnwys bod ar gael i bawb, ni waeth beth fo’u statws preswylio, cenedligrwydd na dinasyddiaeth)
- Ar gael p’un ai bod yr heddlu wedi’u hysbysu am drosedd ai peidio
- Ar gael cyn, yn ystod ac am amser priodol ar ôl unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol.
Mae'r cronfa AR GAU ar hyn o bryd