MEWNGOFNODI
Array
(
[0] => home
[1] => about-us
[2] => fundforwales2
[3] => ourpeople
[4] => missionvisionpurpose
[5] => uk-communityfoundation
[6] => giving
[7] => grants
[8] => news
[9] => contact
[10] => private
[11] => wales-needs
[12] => individuals-and-families
[13] => named-endowment-fund
[14] => named-immediate-impact-fund
[15] => fund-for-wales
[16] => existing-funds
[17] => individualslegacies
[18] => businesses
[19] => businessnamedendowmentfund
[20] => businessnamedimmediateimpactfund
[21] => businessfundforwales
[22] => existingfundsbusiness
[23] => trusts-and-foundations
[24] => professional-advisors
[25] => guidance
[26] => grantholderinformation
[27] => managinggrantmaking
[28] => trusteetransfer
[29] => managingyourinvestments
[30] => supportservices
[31] => professionaladvisorslegacies
[32] => taxeffectivegiving
[33] => fundforwales
[34] => annualreview
[35] => legacies
[36] => philanthropy
[37] => signposting
[38] => faq
[39] => search
[40] => community-benefit
[41] => recruitment
[42] => philanthropyresources
[43] => initiatives
[44] => fourteenbroaberffraw
[45] => FOURTEEN
[46] => midrhondda
[47] => vitalsigns
[48] => pearsfund
[49] => partnerships
[50] => henrysmith
[51] => ashleyfamilyfoundation
[52] => peopleshealthtrust
[53] => https://cfiw.org.uk/eng/about-us/philanthropy/philanthropylinks
[54] => giving-circle
[55] => product-partnerships
[56] => fundraising
[57] => Cricket-in-Wales
[58] =>
)
A
A
A
Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain
Addysg | Clwyd, Dyfed, Gwent, Gwynedd, Mid Glamorgan, Powys, South Glamorgan, West Glamorgan
AMCANION
Crëwyd Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain yn ysbryd diben craidd sefydliad Cymru yn Llundain, sef i ddarparu pont rhwng Cymru a Llundain - ac yn wir ymhellach i ffwrdd. . Mae’n cefnogi myfyrwyr mentrus a phobl ar ddechrau’u gyrfaoedd i gyflawni’u huchelgeisiau. Er enghraifft, bydd yn talu costau sy’n gysylltiedig â bod yn fyfyriwr, ysgoloriaethau, bwrsariaethau busnes, profiad gwaith/datblygu gyrfa.
PWY A ALL YMGEISIO
- Pobl ifanc a anwyd ac/neu a addysgwyd yng Nghymru, pobl y bydd ysgoloriaeth/bwrsariaeth yn eu galluogi i ddatblygu’u sgiliau addysg, dysgu, busnes a gyrfa, a bydd yn ehangu’u gorwelion yn Llundain neu y tu allan i Gymru.
Disgwylir y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn addo ‘rhoi yn ôl’, yn awr neu yn y dyfodol, i Gronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain neu yn wir i gymdeithas yn fwy cyffredinol. Er enghraifft, rhoi cefnogaeth er budd y cyhoedd, rhoddion elusennol, gweithgareddau codi arian, gwirfoddoli, ac yn y blaen, fel mathau o roi dyngarol.
Gellir gwahodd ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu ac i gyflwyno yn nigwyddiadau’r Sefydliad Cymunedol neu yn nigwyddiadau Cymru yn Llundain o fewn y flwyddyn ar ôl derbyn cyllid er mwyn diweddaru’r rhoddwyr ar sut mae’r grant wedi cyfrannu at eu datblygiad. Bydd y Sefydliad hefyd yn disgwyl adroddiad monitro, a byddai’n gwerthfawrogi’n fawr cael diweddariadau gan fuddiolwyr fel ein bod yn gallu pwyso a mesur effaith ein grantiau dros y cyfnod hwy.
GRANTIAU SYDD AR GAEL
- Gall unigolion ymgeisio am grantiau rhwng £500 a £1,250;
Nodwch, os gwelwch yn dda:
- Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n dangos orau sut maent yn diwallu amcanion y Gronfa, ac sy’n dangos orau'r angen ariannol a chymdeithasol y bydd y grant yn ei fodloni.
- Ni ddyfarnir grantiau’n ôl-weithredol, hynny yw, am gostau a achoswyd eisoes cyn derbyn y llythyr yn cynnig y grant a llofnodi’r telerau a’r amodau.
- Ni ddyfarnir grantiau i unigolion am gostau lle mae cymorth ariannol ar gael fel arall; er enghraifft, lle mae’r ymgeisydd yn gymwys ar gyfer benthyciad i fyfyrwyr.
- Gall unigolion ond ymgeisio i’r gronfa unwaith mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
- Nid yw ymgeiswyr llwyddiannus yn gymwys i ail-ymgeisio am 5 mlynedd.
MAE'R GRONFA YMA AR GAU AR HYN O BRYD