MEWNGOFNODI
Array ( [0] => home [1] => about-us [2] => fundforwales2 [3] => ourpeople [4] => missionvisionpurpose [5] => uk-communityfoundation [6] => giving [7] => grants [8] => news [9] => contact [10] => private [11] => wales-needs [12] => individuals-and-families [13] => named-endowment-fund [14] => named-immediate-impact-fund [15] => fund-for-wales [16] => existing-funds [17] => individualslegacies [18] => businesses [19] => businessnamedendowmentfund [20] => businessnamedimmediateimpactfund [21] => businessfundforwales [22] => existingfundsbusiness [23] => trusts-and-foundations [24] => professional-advisors [25] => guidance [26] => grantholderinformation [27] => managinggrantmaking [28] => trusteetransfer [29] => managingyourinvestments [30] => supportservices [31] => professionaladvisorslegacies [32] => taxeffectivegiving [33] => fundforwales [34] => annualreview [35] => legacies [36] => philanthropy [37] => signposting [38] => faq [39] => search [40] => community-benefit [41] => recruitment [42] => philanthropyresources [43] => initiatives [44] => fourteenbroaberffraw [45] => FOURTEEN [46] => midrhondda [47] => vitalsigns [48] => pearsfund [49] => partnerships [50] => henrysmith [51] => ashleyfamilyfoundation [52] => peopleshealthtrust [53] => https://cfiw.org.uk/eng/about-us/philanthropy/philanthropylinks [54] => giving-circle [55] => product-partnerships [56] => fundraising [57] => Cricket-in-Wales [58] => )
ENG | CYM
A A A
search

CHWILIO


CATEGORIAU


ARDAL


Sefydliad Wesleyan

Cymundeau, Addysg, Iechyd | South Glamorgan

Sefydlwyd y Sefydliad Wesleyan yn 2017 i barhau i gefnogi amrywiol achosion da drwy’r DU i gyd, ac yn benodol CAERDYDD yng Nghymru. 


AMCANION

Mae’r Sefydliad Wesleyan yn darparu cymorth yn y meysydd a ganlyn:

Iechyd – Prosiectau sy’n gweithio i wella iechyd a lles y gymuned leol;

Addysg -  Prosiectau sy’n gweithio i hyrwyddo addysg a dysgu gydol oes;

Cymdeithasol – Prosiectau sy’n creu datrysiadau arloesol i heriau cymdeithasol, gan hyrwyddo cydlyniant cymunedol a datblygu cadernid mewn cymunedau.

 

PWY A ALL YMGEISIO

Elusennau, grwpiau dielw â chyfansoddiad a mudiadau sy’n cynnal prosiectau a gweithgareddau o fewn ac o gwmpas Sir Gaerfyrddin er budd y gymuned leol (e.e., clybiau ar ôl ysgol, clybiau cinio, caffis cof, gwasanaethau cyfeillio ac ati).

 

 

GRANTIAU SYDD AR GAEL

Mae dau fath o grantiau o wahanol faint ar gael i sefydliadau sy’n gweithio yn Ninas a Sir CAERDYDD:

 

Grantiau Bychain:

Gall grwpiau cymunedol lleol â chyfansoddiad ac elusennau cofrestredig ag incwm sy’n llai na £250,ooo ymgeisio am grantiau o hyd at £2,000.

 

Grantiau Mawrion:

Gall grwpiau cymunedol â chyfansoddiad  ac elusennau cofrestredig ag incwm sy’n llai na £500,000 ymgeisio am grantiau o rhwng  £2,000 a £10,000;

Ni ddylai ceisiadau grant fod yn fwy nag 20% o incwm blynyddol y sefydliad (yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf);

Dylai unrhyw gais am gyflog, cyfarpar a chostau gwirfoddolwyr gael ei gyllidebu’n eglur ac fe ddylid ond ei ddefnyddio ar gyfer y prosiect yr ymgeisir amdano;

Dylai ymgeiswyr allu darparu 2 flynedd o gyfrifon.

Nodwch, os gwelwch yn dda:

Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y., ar gyfer costau a achoswyd cyn cael y llythyr yn cynnig grant a’r telerau ac amodau a lofnodwyd;

Bydd ymgeiswyr yn clywed canlyniad eu cais o fewn 16 wythnos wedi’r dyddiad cau;

Dylid cynnwys e-bost a ddefnyddir yn rheolaidd, gan mai proses cyfan gwbl ar-lein yw hon, a bydd gohebiaeth drwy e-bost;

Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu dogfennau priodol i ategu’u cais;

Bydd hi’n ofynnol i ymgeiswyr ddarparu diweddariad cryno  ar ôl 6 mis o ddechrau’r prosiect, a llenwi ffurflen fonitro ar ddiwedd y prosiect.

 


NID YW GRANTIAU AR GAEL AR GYFER:

Unigolion neu unig fasnachwyr;

Adeiladu cyfalaf;

Hyrwyddo gweithgareddau crefyddol neu wleidyddol;

Ysgolion, eglwysi, cynghorau plwyf neu Gymdeithasau Rhieni ac Athrawon, oni bai y dangosir fod yna fudd cymunedol ehangach;

Lles anifeiliaid, oni bai bod y prosiect o fudd i bobl (e.e., cynlluniau marchogaeth i bobl anabl);

Grwpiau â mwy na 12 mis o gostau cynnal wrth gefn;

Disodli rhwymedigaeth statudol yn uniongyrchol, e.e., o fewn addysg, y GIG neu lywodraeth.

 

Mae hon yn rhaglen NEWYDD o roi grantiau, ac fe all y meini prawf newid yn y dyfodol.

 

SUT I YMGEISIO

 

Grantiau Bach

Cliciwch Yma i gychwyn cais ar-lein yn Gymraeg

Cliciwch Yma i gychwyn cais ar-lein yn Saesneg

 

Grantiau Mawr

Cliciwch Yma i gychwyn cais ar-lein yn Gymraeg

Cliciwch Yma i gychwyn cais ar-lein yn Saesneg

 

Fe allwch gysylltu â’r Sefydliad ar 02920 379 580 neu drwy anfon e-bost at [email protected]  am fwy o wybodaeth. 

 

Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner dydd, ddydd Gwener, yr 14eg o Orffennaf, 2017.