Mae’r Sefydliad Cymunedol yn elusen unigryw sy’n ddigon ffodus i gael cydweithio â phobl sy’n cael eu cymell gan yr awydd i wneud gwahaniaeth yng Nghymru. Rydym yn defnyddio ein gwybodaeth am anghenion ac am y sector gwirfoddol i reoli rhaglenni grant sy’n cael llawer o effaith, a’r rheini wedi’u cynllunio i sicrhau canlyniadau cynaliadwy, gan ddyfarnu grantiau ar ran ein cleientiaid, deiliaid cronfeydd a rhoddwyr, a galluogi pobl leol i sbarduno newid yn eu cymunedau.
Fe’i sefydlwyd yn 1999, ac erbyn hyn mae’r Sefydliad yn rhoi grantiau gwerth £2 filiwn a mwy i grwpiau cymunedol ac elusennau ar ran ein rhoddwyr bob blwyddyn. Sicrheir ansawdd gwasanaethau cynghori ynghylch dyngarwch a dyrannu grantiau’r Sefydliad drwy strwythyr safon UK Community Foundations.
Mae mwy na 30,000 o elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru sy’n cryfhau eu cymunedau ac yn bodloni anghenion lleol – a hynny’n aml am y nesaf peth i ddim o arian ac yn wirfoddol. Maent yn deall eu sialensiau a’u huchelgeisiau, ac yn gweithio’n galed i roi sylw i faterion allweddol ac i wireddu dyheadau pobl yn eu cymdogaeth. Gyda’n hymwybyddiaeth o’r grwpiau hyn a’n gwybodaeth amdanynt, gall y Sefydliad ddyfarnu grantiau rhwng £500 a £150,000 ar ran rhoddwyr er mwyn cefnogi’r mudiadau a’r prosiectau gwych hyn.