|
How can companies benefit from Sefydliad?
More and more companies, of whatever size, are receiving requests for support and charitable donations from all sorts of causes and charities. Whilst a company may have a budget for its charitable donations, the time spent in considering such requests can be great and often the job is carried out by someone who already has too much to do and too little time in which to do it. A company that funnels charitable giving through a community foundation outsources the administrative overhead.
Either setting up a named fund with the community foundation or donating to our activities ensures that local causes are supported, the administrative burden and time spent by the company is reduced, while the impact of the giving is maximised for all the right reasons and guarantees recognition for the company of grants resulting from their support.
Companies need to consider their local profiles in order to sell their products and to attract quality staff. Charitable giving is one way to enhance their profile and if they make donations tax efficiently so much the better.
If the idea of a lasting endowment fund is not the way you would like to manage your giving, you might want to work with Sefydliad to develop your own grant scheme. This would be a way of seeing a more immediate response and businesses might want to do this as part of their marketing strategies
The Sefydliad grant scheme package would provide:
- Publicity materials for the scheme: a leaflet to be distributed through branches of the organisation (if appropriate), through our database of voluntary organisations and through usual voluntary sector channels; press releases in national Welsh and local media, voluntary sector publications, in-house newsletters
|
- Process materials: application form, guidance notes for applicants, monitoring forms and other correspondence to applicants as appropriate
|
- Administration: processing of applications; assessment; producing shortlists of applications; guidance to a grant making panel (if required); payment of grants; notifying unsuccessful applicants; monitoring grant expenditure
|
|
|
Sut y gall cwmnïau elwa oddi wrth Sefydliad?
Y mae mwy a mwy o gwmnïau, beth bynnag fo’u maint, yn derbyn deisyfiadau am gefnogaeth a rhoddion elusennol oddi wrth bob math o achosion ac elusennau. Tra bod gan gwmni hwyrach gyllideb ar gyfer ei roddion elusennol, fe all yr amser a dreulir yn ystyried y cyfryw ddeisyfiadau fod yn enfawr ac yn aml fe wneir y gwaith gan rywun sydd eisoes â gormod i’w wneud a dim digon o amser i’w wneud. Y mae cwmni sy’n sianelu rhoddion elusennol drwy sefydliad cymunedol yn goresgyn y gorbenion gweinyddol yn ariannol.
Y mae naill ai sefydlu cronfa a enwir gyda’r sefydliad cymunedol neu roddi i’n gweithgareddau yn sicrhau fod achosion lleol yn cael eu cefnogi, fod y baich gweinyddol a’r amser a dreulir gan y cwmni yn cael ei leihau, tra bod effaith y rhodd yn cael ei chynyddu hyd yr eithaf am y rhesymau iawn i gyd ac y mae’n gwarantu cydnabyddiaeth i’r cwmni o grantiau sy’n deillio o’u cefnogaeth.
Y mae angen i gwmnïau ystyried eu proffiliau lleol er mwyn gwerthu eu cynhyrchion ac i ddenu gweithwyr o ansawdd. Y mae rhoddion elusennol yn un ffordd o ddyrchafu eu proffil ac os ydynt yn gweud rhoddion mewn modd sy’n effeithiol o ran trethi, yna gorau oll.
Os nad y syniad o gronfa waddol barhaol yw’r ffordd y byddech chi yn dymuno rheoli’ch rhoddion, hwyrach yr hoffech weithio gyda Sefydliad i ddatblygu’ch cynllun grant eich hun. Fe fyddai hyn yn ffordd o weld ymateb mwy unionsyth, ac fe allai busnesau ddymuno gwneud hyn fel rhan o’u strategaethau marchnata.
Fe fyddai pecyn cynllun grant Sefydliad yn darparu:
- Deunyddiau cyhoeddusrwydd ar gyfer y cynllun: taflen i’w dosbarthu drwy ganghennau’r mudiad (os yn briodol), drwy ein cronfa ddata ni o fudiadau gwirfoddol a thrwy sianelau’r sector gwirfoddol arferol; datganiadau i’r wasg yng nghyfryngau cenedlaethol a lleol Cymru, cyhoeddiadau’r sector gwirfoddol, a chylchlythyrau mewnol
|
- Deunyddiau prosesu: ffurflen gais, nodiadau yn cynnig canllawiau ar gyfer ymgeiswyr, ffurflenni cadw golwg a mathau eraill o ohebiaeth i ymgeiswyr fel y bo’n briodol
|
- Gweinyddiad: prosesu ceisiadau; asesiad; cynhyrchu rhestrau byrion o geisiadau; canllawiau i banel pennu grant (os oes angen); talu grantiau; hysbysu ymgeiswyr aflwyddiannus; cadw golwg ar wario grantiau
|
|
|