MEWNGOFNODI
Array ( [0] => home [1] => about-us [2] => fundforwales2 [3] => ourpeople [4] => missionvisionpurpose [5] => uk-communityfoundation [6] => giving [7] => grants [8] => news [9] => contact [10] => private [11] => wales-needs [12] => individuals-and-families [13] => named-endowment-fund [14] => named-immediate-impact-fund [15] => fund-for-wales [16] => existing-funds [17] => individualslegacies [18] => businesses [19] => businessnamedendowmentfund [20] => businessnamedimmediateimpactfund [21] => businessfundforwales [22] => existingfundsbusiness [23] => trusts-and-foundations [24] => professional-advisors [25] => guidance [26] => grantholderinformation [27] => managinggrantmaking [28] => trusteetransfer [29] => managingyourinvestments [30] => supportservices [31] => professionaladvisorslegacies [32] => taxeffectivegiving [33] => fundforwales [34] => annualreview [35] => legacies [36] => philanthropy [37] => signposting [38] => faq [39] => search [40] => community-benefit )
ENG | CYM
A A A
search

Cronfa Effaith Uniongyrchol Bersonol

Mae Cronfeydd Personol sy’n cael Effaith Uniongyrchol yn eich galluogi i gyfrannu (bob blwyddyn fel arfer), gyda'r diben o roi'r swm mewn grantiau naill ai'n syth neu ar wahanol adegau drwy’r flwyddyn, er mwyn cael effaith uniongyrchol.  

Mae angen rhodd o £25,000 o leiaf ar gyfer Cronfa Effaith Uniongyrchol, a bydd yn eich galluogi chi, deilydd y Gronfa Bersonol, i gefnogi'r achosion rydych chi wedi’u dewis cyn gynted ag y dymunwch.  

 

Sut mae'n gweithio

Byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i amlinellu’r prif achosion neu’r ardaloedd rydych chi’n dymuno eu cefnogi gyda’ch rhodd ddyngarol, a bydd hyn yn cael ei grynhoi mewn Cytundeb Cronfa. 

Gan ddibynnu ar sut yr hoffech chi ryngweithio â’ch Cronfa, gall y Sefydliad gyflwyno cynigion i chi sy’n cyd-fynd â themâu eich Cronfa, gan roi cyfle i chi benderfynu pa grwpiau'n union yr hoffech eu cefnogi. Gallwn drefnu i chi ymweld â phrosiectau cyn neu ar ôl dyfarnu eich grantiau er mwyn i chi gael gweld â'ch llygaid eich hun y gwahaniaeth y mae'ch Cronfa yn ei wneud. Rydym yn cynnal gwaith ymchwil manwl ar bob cais ac yn asesu pob cais yn llawn cyn rhoi eich cynigion i chi.  

Mae’r Sefydliad yn codi ffi rheoli sy'n 10% o werth eich rhodd i’r Gronfa Effaith Uniongyrchol.     

Sefydlodd un o’n cleientiaid preifat ei Chronfa Bersonol fel Cronfa Skiathos, Cronfa Effaith Uniongyrchol £100,000  i gefnogi pobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru. Mae’r Gronfa hon wedi rhoi grantiau i wella bywydau er mwyn rhoi hwb i hyder a datblygu profiadau pobl ifanc, gan gynyddu dyheadau a meithrin gobaith.