|
Philanthropy: Mario Basini
Some years ago I found my self on assignment for The Western
Mail,
the newspaper I still write for,
in Pontrhydfendigaid in the hills overlooking Aberystwyth. The
village was, and I hope still is, a thriving centre for Welsh
language culture. It hosted
a famous eisteddfod and a series of influential pop concerts
in the huge pavilion built by one of its sons, the philanthropist,
Sir David James. And “Bont” was prosperous enough
to boast an energetic population of young people.
As I had lunch in one of the village pubs, I watched a group
of those young men and women wheeling a legless old man into
the bar. They bought him a drink, fussed over him and made his
wheelchair the centre of their group.
The old man had spent a lifetime away from the village, much
of it homelessly wandering the world. He had been brought home
after an accident or illness – I cannot remember which –
had cost him his legs.
The young people had “adopted” him as soon as he had
returned. They called at his house to see if he was all right,
cleaned for him, fed him and brought him for these brief visits
to the pub. It struck me as a moving example of mutual support
and succour in a culture in which compassion was so ingrained
it was second nature.
For millennia in this rural society the notion of state social
services was inconceivable. If someone had thought of such of
thing, he would have been laughed at. Instead, the community
recognised that the well-being each of its members depended
on the help of the others in times of hardship and illness.
In a society in which everybody regularly faced the life-threatening
dangers of famine and disease, compassion became an essential
mechanism for survival. I had seen a very similar system of
self-help at work in my parents’ villages in the Apennine
Mountains of Northern Italy. The rural society there resembled
that which had existed in Pontrhydfendigaid closely.
Nor was this notion of mutual aid confined to rural Wales. By
far the biggest ingredient in the melting pot which became industrial
South Wales was immigration from rural West and North Wales.
Newcomers from there vastly outnumbered those from further afield.
They brought with them the notion of mutual aid which, if anything,
was needed more in the new communities of the South Wales Valley
and North East Wales than it had been in the countryside.
In good times, the wages the immigrants could earn in the ironworks
and coal mines brought a much better lifestyle than they had
enjoyed on their farms and in their rural villages. But life
could be much more precarious in the industrial communities
of the Valleys. Frequent economic depressions in the iron and
coal industries could bring savage wage cuts or, worse, prolonged
bouts of unemployment unsupported by decent state benefits.
Primitive methods of production and non-existent safety procedures
meant that many suffered horrific injuries which ended their
working lives and left their families destitute. Bitter, savagely-fought
strikes could put whole communities on the breadline. The unprecedented
Depression of the Twenties and Thirties reduced much of South
Wales to a life-threatening poverty.
It is not surprising that in these circumstances, the idea of
self-help, of the better-off helping those in distress, once
again became a fundamental principle of life. It was expressed
at the most fundamental level, that of the street. Just as those
young people in Pontrhydfendigaid went to the aid of the old
man, neighbours in industrial South Wales became each other’s
life support systems. Crises from childbirth to the maiming
or injury of a breadwinner automatically brought help and comfort
from neighbours.
The idea of the ever-open door as a symbol of mutual support
was more than a cliché used to lard sentimental novels
and newspaper articles. It was an essential fact of life.
If the need for that tradition has waned
a little in a modern society reliant in a complex system of
state benefits, it still flourishes. Communities quickly gather
round children in need of expensive medical treatment at home
or abroad, often raising hundreds of thousands
of pounds. Nationwide campaigns such as the Noah’s Ark
Appeal for a new children’s hospital raise vast sums.
Partnerships between public and
private funding have helped to bring fundamental changes to
communities and housing estates once ravaged by problems such
as that of Penrhys in
the Rhondda.
The arrival of the The Community Foundation in Wales is a welcome
development. It will help to shape to this generous instinct
for helping others and to channel it to where it is most needed
|
|
Dyngarwch: Mario Basini
Rai blynyddoedd yn ôl, yr oeddwn yn gweithio ar orchwyl
i’r Western Mail, y papur newydd yr wyf yn dal i ysgrifennu
iddo, ym Mhontrhydfendigaid yn y bryniau uwchlaw Aberystwyth.
Yr oedd y pentref, ac fe obeithiaf ei fod yn dal i fod, yn
ganolfan lewyrchus i ddiwylliant yr iaith Gymraeg. Yr oedd
yn cynnal eisteddfod enwog a chyfres o gyngherddau pop dylanwadol
yn y pafiliwn enfawr a adeiladwyd gan un o’i feibion,
sef y dyngarwr, Syr David James. Ac yr oedd “Bont”
yn ddigon goludog i gynnal poblogaeth egnïol o bobl ifanc.
Fel yr oeddwn yn cael cinio yn un o dafarndai’r pentref,
fe wyliais garfan o’r gw_r a’r merched ieuainc hyn
yn gwthio hen _r digoesau i mewn i’r bar. Fe wnaethant
brynu diod iddo, ffwdanu yn ei gylch a gwneud ei gadair olwyn
yn ganolbwynt eu hymgynnull. Yr oedd yr hen _r wedi treulio
oes ymaith o’r pentref, llawer o’r amser yn crwydro’r
byd. Fe ddaethpwyd ag ef gartref ar ôl i ddamwain neu
waeledd – ni allaf gofio pa un – olygu ei fod wedi
colli’i goesau.
Yr oedd y bobl ifanc wedi’i “fabwysiadu” ef
cyn gynted ag yr oedd wedi dychwelyd. Fe wnaethant alw yn
ei d_ i weld a oedd ef yn iawn, glanhau iddo, ei fwydo a mynd
ag ef am yr ymweliadau byrion hyn â’r dafarn. Fe
wnaeth hyn fy nharo i fel enghraifft wefreiddiol o gefnogaeth
ac ymgeledd cydgymorth mewn diwylliant ble yr oedd tosturi
mor gynhenid, yr oedd yn ail natur.
Am filoedd o flynyddoedd yn y gymdeithas wledig hon, yr oedd
y syniad o wasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan y wladwriaeth
yn beth y tu hwnt i amgyffred rhywun. Pe bae rhywun wedi meddwl
am y fath beth, fe fyddai’n destun sbort. Yn hytrach,
yr oedd y gymuned yn cydnabod bod lles ei holl aelodau yn
dibynnu ar gymorth pawb arall ar adegau o gyfyngder a gwaeledd.
Mewn cymdeithas ble yr oedd pawb yn rheolaidd yn wynebu’r
peryglon a oedd yn bygwth bywyd sef newyn ac afiechyd, fe
ddaeth tosturi yn beirianwaith hanfodol i oroesi. Yr oeddwn
wedi gweld cyfundrefn gyffelyb iawn o hunangymorth yn cael
ei gweithredu ym mhentrefi fy rhieni ym Mynyddoedd yr Apenninau
yng Ngogledd yr Eidal. Yr oedd y gymdeithas wledig yno yn
debyg iawn i’r hyn a oedd wedi bodoli ym Mhontrhydfendigaid.
Ac nid oedd y syniad hyn o gydgymorth yn gyfyngedig i gefn
gwlad Cymru. O bell ffordd, yr elfen fwyaf yn y pair a dyfodd
i fod yn Dde Cymru ddiwydiannol oedd mewnfudo o gefn gwlad
Gorllewnin a Gogledd Cymru. Yr oedd newydd-ddyfodiaid o’r
ardaloedd hyn yn llawer iawn mwy niferus nag eraill o’r
tu hwnt i Gymru. Fe wnaethant ddod â’r syniad o
gydgymorth gyda hwynt, ac yr oedd, os rhywbeth, mwy o’i
angen yng nghymunedau newydd Cymoedd De Cymru a Gogledd Ddwyrain
Cymru nag a oedd ei angen yng nghefn gwlad.
Ar adegau da, yr oedd y cyflogau y gallai’r mewnfudwyr
eu hennill yn y gweithfeydd haearn a’r pyllau glo ddod
â llawer amgenach ffordd o fyw nag yr oeddynt wedi’i
mwynhau ar eu ffermydd ac yn eu pentrefydd gwledig. Ond fe
allai bywyd fod yn llawer mwy enbyd yng nghymunedau diwydiannol
y Cymoedd. Fe allai dirwasgiadau economaidd mynych yn y diwydiannau
haearn a glo esgor ar ostyngiadau llym mewn cyflogau neu,
yn waeth, ar gyfnodau hirfaith o ddiweithdra heb gynhaliaeth
budd-daliadau gweddol gan y wladwriaeth.
Yr oedd dulliau cyntefig o gynhyrchu a dim math o weithdrefnau
diogelwch ar gyfer y gweithwyr yn golygu bod llawer wedi dioddef
anafiadau arswydus a roes ddiwedd ar eu gallu i weithio gan
adael eu teuluoedd ar y clwt. Fe allai streiciau chwerw a
milain eu natur arwain at dlodi mawr mewn cymunedau cyfan.
Fe wnaeth Dirwasgiad digynsail y Dauddegau a’r Tridegau
greu cymaint o dlodi yn llawer o Dde Cymru fel ag i fygwth
bywydau.
Nid ydyw’n syndod yn yr amgylchiadau hyn y gwnaeth y
syniad o hunangymorth, y syniad o’r rhai gwell eu byd
yn cynorthwyo’r sawl sy’n anghenus, unwaith eto
ddod yn egwyddor bywyd sylfaenol. Fe gâi’i fynegi
ar y lefel mwyaf sylfaenol, ar lefel y stryd. Yn union fel
yr oedd y bobl ifanc hynny ym Mhontrhydfendigaid yn barod
i gymorth yr hen _r, y cymdogion yn y Dde Cymru ddiwydiannol
oedd cynhaliaeth bywyd y naill a’r llall. Yr oedd argyfyngau
a amrywiai o enedigaeth i glwyf parhaol neu anaf i’r
enillwr cyflog yn dod â chymorth a chysur yn syth a
diymdroi oddi wrth gymdogion.
Yr oedd y syniad hyn o’r drws sydd bob amser yn agored
fel symbol o gydgymorth yn fwy nag ond ystrydeb a ddefnyddir
i roi bloneg ar nofelau sentimental ac erthyglau papur newydd.
Yr oedd yn ffaith hanfodol o fywyd.
Os yw’r angen am y traddodiad hynny wedi crebachu fymryn
mewn cymdeithas gyfoes sy’n gallu dibynnu ar gyfundrefn
gymhleth o fudd-daliadau gan y wladwriaeth, y mae’n dal
i fodoli. Y mae cymunedau yn chwim i ymgynnull o amgylch plant
y mae arnynt angen triniaeth feddygol ddrudfawr yn y wlad
neu dramor, yn aml yn casglu cannoedd o filoedd o bunnau.
Y mae ymgyrchoedd ledled y wlad, megis Apêl Arch Noa
ar gyfer ysbyty newydd i blant, yn casglu symiau aruthrol
o arian.
Y mae partneriaethau rhwng arian cyhoeddus a phreifat wedi
cynorthwyo i ddod â newidiadau sylfaenol i gymunedau
ac ystadau tai a oedd unwaith wedi’u hanrheithio gan
broblemau, megis un Penrhys yn Y Rhondda.
Y mae dyfodiad y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn ddatblygiad
i’w groesawu. Fe wnâ gynorthwyo i ffurfio’r
reddf haelionnus hon i gynorthwyo eraill ac i’w sianelu
i’r man y mae’i hangen fwyaf.
|
|