MEWNGOFNODI
Array ( [0] => home [1] => about-us [2] => fundforwales2 [3] => ourpeople [4] => missionvisionpurpose [5] => uk-communityfoundation [6] => giving [7] => grants [8] => news [9] => contact [10] => private [11] => wales-needs [12] => individuals-and-families [13] => named-endowment-fund [14] => named-immediate-impact-fund [15] => fund-for-wales [16] => existing-funds [17] => individualslegacies [18] => businesses [19] => businessnamedendowmentfund [20] => businessnamedimmediateimpactfund [21] => businessfundforwales [22] => existingfundsbusiness [23] => trusts-and-foundations [24] => professional-advisors [25] => guidance [26] => grantholderinformation [27] => managinggrantmaking [28] => trusteetransfer [29] => managingyourinvestments [30] => supportservices [31] => professionaladvisorslegacies [32] => taxeffectivegiving [33] => fundforwales [34] => annualreview [35] => legacies [36] => philanthropy [37] => signposting [38] => faq [39] => search [40] => community-benefit [41] => recruitment [42] => philanthropyresources [43] => initiatives [44] => fourteenbroaberffraw [45] => FOURTEEN [46] => midrhondda [47] => vitalsigns [48] => pearsfund [49] => partnerships [50] => henrysmith [51] => ashleyfamilyfoundation [52] => peopleshealthtrust [53] => https://cfiw.org.uk/eng/about-us/philanthropy/philanthropylinks )
ENG | CYM
A A A
search

FOURTEEN

 Mae Fourteen yn rhaglen gwerth £3.5 miliwn a ariannir gan Spirit of 2012, sef elusen a sefydlwyd gan y Gronfa Loteri Fawr i gysylltu digwyddiadau â chymunedau ledled y wlad, gan fynd i’r afael ag anfantais drwy gefnogi cyfleoedd mewn chwaraeon, gweithgareddau corfforol, diwylliant a’r celfyddydau, gwirfoddoli a gweithredu cymdeithasol.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflenwi a’i rheoli ledled Lloegr, yr Alban a Chymru drwy Sefydliadau Cymunedol y Deyrnas Unedig (UKCF) (mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, Foundation Scotland, Heart of England Community Foundation, Forever Manchester, Tyne & Wear and Northumberland Community Foundation a Quartet Community Foundation). Bydd y rhaglen yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei chyflenwi a’i rheoli gan Springboard (mewn partneriaeth â Strive NI).

Ynghyd â Spirit, bydd y partneriaid yn creu etifeddiaeth o wella lles a dedwyddwch. Caiff Fourteen ei harwain gan y gymuned a bydd pob cymuned yn penderfynu drosti’i hun sut mae arni eisiau cynyddu cyfranogiad mewn un neu ragor o’r gweithgareddau a ganlyn: gweithredu cymdeithasol a gwirfoddoli; chwaraeon a gweithgareddau corfforol llawr gwlad; gweithgareddau diwylliannol a chelfyddydau; ac arweinyddiaeth ieuenctid a datblygiad personol.

Yng Nghymru, dewiswyd cymunedau Bro Aberffraw yn Ynys Môn a Rhondda Ganol yn Rhondda Cynon Taf i fod yn gymunedau Fourteen. Bydd pob ardal yn derbyn £200,000 dros oes y rhaglen dair blynedd. Mae Sefydliad Cymunedol yng Nghymru wrth eu bodd o fod yn gweithio mewn cymunedau unigryw a dynamig o’r fath.

Bydd holl weithgareddau Fourteen yn gynhwysol ac wedi’u hanelu at gefnogi pobl leol i ddatblygu’u potensial ac i deimlo’n alluog i gyfrannu’n weithredol at eu cymuned. Mae digwyddiadau megis Glasgow 2014 a Llundain 2012 yn hynod yn eu gallu i ddod â phobl ynghyd: ysbrydoli balchder drwy rym cyfranogi. Nod Fourteen yw cynnal y positifrwydd hwn gan rymuso pobl i fynd allan o’u hardal leol, i gymryd rhan ac i deimlo’n well.

I ddarllen mwy am Fro Aberffraw, cliciwch yma
I ddarllen mwy am Rondda Ganol, cliciwch yma