How can you help?
Cymrodorion
Named Funds
Legacies
Gift Aid declaration

Sut y gallwch chi gynorthwyo?
Gymrodorion
Cronfeydd a Enwir
Cymynroddion
Datganiad Rhodd Cymorth

Named Funds

Donors who wish to make a large donation, over £10,000, can choose to do so through a named fund. These can be established in the name of a company or an individual and can be set up now or through a legacy. Named funds are a powerful way of supporting local communities today or for many generations to come.

One of the main advantages of a named fund is that the donor has the opportunity to allocate their donations to a specific field of interest or geographical area. The list of options is endless and Sefydliad has the flexibility to satisfy your own personal requirements.

Examples of specific funds that could be set up are:

  • Discretionary funds: the donor creates a fund and allows Sefydliad discretion to use the annual income within the general remit of Sefydliad

  • Themed funds: A variant of the Discretionary fund whereby many donors contribute to a permanent fund within Sefydliad, created as, for example, a children’s fund, a community safety fund or one which focuses on a specific geographic area

  • Advised funds: the donor has some degree of participation in the grant making process. For example through informal discussion with Sefydliad, or in some company funds, by employee discussion giving a steer to the nature of grants decisions. This option may only be available to donors making a very large donation

  • Directed funds: the donor directs Sefydliad to pay the fund’s income to one or more specific named organisations

  • Administrative endowment fund: such a fund would be developed to create income to be used to help cover the Sefydliad’s running costs. Giving in this way contributes towards our wider advisory and community initiative roles and is therefore particularly helpful in bringing added value to our work.

Setting up a named fund demonstrates a tax-effective way of giving for both
individuals and businesses

.What would donors of a named fund receive?


Sefydliad would provide:

  • Publicity in at least the local press and the Sefydliad newsletter for the donor setting up the fund, if required.

  • Reference in Sefydliad’s annual review

  • Administration of the fund: investment of donation capital; producing quarterly reports on growth of fund; processing of applications; assessment of applications; guidance on making grants (if necessary); payment of grants; monitoring grant expenditure

Cronfeydd a Enwir

Fe all rhoddwyr sy’n dymuno gwneud rhodd sylweddol, dros £10,000, ddewis gwneud hynny drwy gronfa a enwir. Fe ellir sefydlu’r rhain yn enw cwmni neu unigolyn ac fe ellir eu sefydlu yn awr neu drwy gymynrodd. Y mae cronfeydd a enwir yn ffordd rymus o gefnogi cymunedau lleol heddiw neu am lawer o genedlaethau i ddod.

Un o brif fanteision cronfa a enwir yw fod gan y rhoddwr y cyfle i ddyrannu ei roddion i faes o ddiddordeb neu i ardal ddaearyddol benodol. Y mae’r rhestr o ddewisiadau yn ddi-ben-draw ac y mae gan Sefydliad yr hyblygrwydd i fodloni’ch gofynion personol chi.

Enghreifftiau o gronfeydd penodol y gellir eu sefydlu yw:

  • Cronfeydd Dewisol: y mae’r rhoddwr yn creu cronfa ac yn caniatau i Sefydliad gael dewis o ran defnyddio’r incwm blynyddol o fewn cylch gwaith cyffredinol Sefydliad

  • Cronfeydd gyda Themâu: amrywiaeth o’r gronfa Ddewisol drwy’r hyn y mae llawer o roddwyr yn cyfrannu i gronfa barhaol o fewn Sefydliad, a grëwyd fel, er enghraifft, cronfa ar gyfer plant, cronfa diogelwch yn y gymuned neu un sy’n canolbwyntio ar ardal ddaearyddol benodol

  • Cronfeydd gyda Chyngor: y mae gan y rhoddwr beth grym i gymryd rhan yn y broses o wneud grantiau. Er enghraifft, drwy drafodaeth anffurfiol gyda Sefydliad, neu gyda rhai cronfeydd cwmnïau, y gweithwyr drwy drafodaeth sy’n llywio natur y penderfyniadau a wneir o ran grantiau. Fe all y dewis hyn ond fod ar gael i roddwyr sy’n gwneud rhodd sylweddol iawn

  • Cronfeydd a Gyfarwyddir: y rhoddwr sy’n cyfarwyddo Sefydliad i dalu incwm y gronfa i un neu ragor o fudiadau penodol a enwir

  • Cronfa Waddol a Weinyddir: fe fyddai’r cyfryw gronfa yn cael ei datblygu i greu incwm i’w ddefnyddio i gynorthwyo i dalu am gostau gweithredol Sefydliad. Y mae rhoddi yn y modd hyn yn cyfrannu at ein swyddogaethau ehangach o ran cynghori a mentrau cymunedol ac y mae, o’r herwydd, yn neilltuol o gynorthwyol o ran dod â gwerth ychwanegol i’n gwaith

Y mae sefydlu cronfa a enwir yn arddangos ffordd effeithiol o roddi parthed trethi ar gyfer unigolion a busnesau, fel ei gilydd.

Beth fyddai’r sawl sy’n rhoddi i gronfa a enwir yn ei dderbyn?


Fe fyddai Sefydliad yn darparu:

  • Cyhoeddusrwydd yn o leiaf y wasg leol ac yng nghylchlythyr Sefydliad i’r rhoddwr, a sefydlodd y gronfa, pe byddai angen hynny.

  • Cyfeiriad yn adolygiad blynyddol Sefydliad

  • Gweinyddu’r gronfa: buddsoddi’r cyfalaf a roddir; cynhyrchu adroddiadau chwarterol ar dwf y gronfa; prosesu ceisiadau; asesu ceisiadau; arweiniad gyda gwneud grantiau (pe byddai angen); talu grantiau; cadw golwg ar wario grantia