Mae’n amser neilltuol o gyffrous yn y Sefydliad: i gefnogi’n diben craidd, sef cryfhau cymunedau drwy hyrwyddo a rheoli dyngarwch, bwriadwn benodi Cynorthwyydd Grantiau newydd i gefnogi gwaith y Tîm Grantiau a gwaith mwy cyffredinol y Sefydliad.
Tanategir llwyddiant ein gwaith gan ansawdd ein pobl a’n gallu i weithio’n dda fel tîm. Fel penodiad newydd allweddol mewn sefydliad bychan, mae’n hanfodol cael agwedd ‘penderfynol o lwyddo’, y gallu i weithio’n gydweithredol, ac ymrwymiad i werth a rôl y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am y swydd Cynorthwyydd Grantiau, darllenwch y Disgrifiad o’r Swydd, y Cymwyseddau Craidd a’r Llythyr Eglurhaol isod, os gwelwch yn dda, a dychwelwch y Ffurflen Gais sydd ynghlwm i [email protected] erbyn hanner dydd ddydd Llun, y 4ydd o Ebrill, 2016.